Hermann Hesse

Nofelydd a bardd o'r Almaen yn yr iaith Almaeneg a ymfudodd i'r Swistir oedd Hermann Hesse (2 Gorffennaf 18779 Awst 1962) a enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1946.

Ganed ef yn Calw, Teyrnas Württemberg, yng nghyfnod Ymerodraeth yr Almaen, a chafodd ei fagu yn Calw ac yn Basel yn y Swistir. Mynychodd yr ysgol yn Göppingen, ger Stuttgart, cyn cael ei dderbyn i Goleg Diwinyddol Maulbronn ym 1891. Er yr oedd yn ddisgybl galluog, nid oedd yn hoff o awyrgylch pietistaidd y drefn addysg, a gadawodd y coleg erbyn diwedd ei flwyddyn gyntaf.

Aeth yn brentis mewn ffatri glociau yn Calw, ac yn ddiweddarach yn brentis mewn siop lyfrau yn Tübingen. Ei brif ddyhead oedd i fod yn fardd, a chasgliad o gerddi oedd ei lyfr cyntaf, ''Romantische Lieder'' (1898). Gweithiodd yn werthwr llyfrau nes iddo gyhoeddi ei nofel gyntaf, ''Peter Camenzind'', ym 1904 a throi'n llenor llawn-amser ar ei liwt ei hun. Mae ei nofelau cynnar eraill yn cynnwys ''Unterm Rad'' (1906), ''Gertrud'' (1910), a ''Rosshalde'' (1914).

Cafodd Hesse sesiynau â'r seiciatrydd J. B. Lang, un o ddisgyblion Carl Jung, a gwelir dylanwad seicdreiddiad yn ei nofel ''Demian'' (1919). Ymwelodd â'r India, ac ysgrifennodd un o'i weithiau amlycaf, y nofel ''Siddhartha'' (1922), am hanes y Bwda. Mae ei nofelau diweddarach, gan gynnwys ''Der Steppenwolf'' (1927), ''Narziss und Goldmund'' (1930), a ''Das Glasperlenspiel'' (1943), yn ymwneud â deuoliaeth bywyd.

Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18), symudodd Hesse i'r Swistir, a oedd yn wlad niwtral, ac yno ysgrifennai ymosodiadau ar filitariaeth a chenedlaetholdeb, a golygydd hefyd gyfnodolyn ar gyfer carcharorion rhyfel Almaenig. Derbyniodd statws preswylydd parhaol ym 1919, a dinasyddiaeth Swisaidd ym 1923. Ymsefydlodd ym Montagnola, yng nghanton Ticino, a bu farw yno ym 1962 yn 85 oed. Darparwyd gan Wikipedia
Dangos 1 - 9 canlyniadau o 9 ar gyfer chwilio 'Hesse, Hermann', amser ymholiad: 0.06e Mireinio'r Canlyniadau
  1. 1
    gan Hesse, Hermann
    Cyhoeddwyd 1957
    Rhif Galw: 2002 a 0806 NEB
    Llyfr
  2. 2
    gan Hesse, Hermann
    Cyhoeddwyd 1957
    Rhif Galw: 2002 a 0806 NEB
    Llyfr
  3. 3
    gan Hesse, Hermann
    Cyhoeddwyd 1929
    Rhif Galw: 2002 a 0651 NEB
    Llyfr
  4. 4
    gan Hesse, Hermann
    Cyhoeddwyd 1910
    Rhif Galw: 2002 a 1873 NEB
    Llyfr
  5. 5
    Awduron Eraill: “...Hesse, Hermann...”
    Rhif Galw: Mus. 2287
    Llyfr
  6. 6
    gan Böhlke, Erich, Böhlke, Erich
    Cyhoeddwyd 1960
    Awduron Eraill: “...Hesse, Hermann...”
    Rhif Galw: Mus. 2287
    Llyfr
  7. 7
    gan Böhlke, Erich, Böhlke, Erich
    Cyhoeddwyd 1956
    Awduron Eraill: “...Hesse, Hermann...”
    Rhif Galw: Mus. 2287
    Llyfr
  8. 8
    gan Böhlke, Erich, Böhlke, Erich
    Cyhoeddwyd 1960
    Awduron Eraill: “...Hesse, Hermann...”
    Rhif Galw: Mus. 2287
    Llyfr
  9. 9
    gan Klaas, Julius
    Cyhoeddwyd 1927
    Awduron Eraill: “...Hesse, Hermann [Texter]...”
    Rhif Galw: Mus.neb 0822
    Llyfr