Frédéric Chopin
Frédéric François Chopin (
1 Mawrth 1810 –
17 Hydref 1849) oedd un o'r cyfansoddwyr enwocaf a mwyaf dylanwadol ar gyfer y
piano. Fe'i anwyd yn
Fryderyk Franciszek Chopin, ym mhentref Żelazowa Wola, ger
Warsaw yng
Ngwlad Pwyl. Roedd ei dad yn
Ffrancwr a oedd wedi ymsefydlu yn y wlad, a'i fam yn Bwyles. Yn
Warszawa, fe adnabwyd dawn mentrus y Chopin ifanc wrth ganu'r piano a chyfansoddi. Yn 20 oed, fe adawodd am
Baris (ni ddychwelodd i Wlad Pwyl byth eto). Ym Mharis, datblygodd yrfa fel perfformiwr, athro, a chyfansoddwr, ac yno y mabwysiadodd ffurf
Ffrangeg ei enw, "Frédéric-François". Ym
1836, cyfarfu â'r awdures Ffrengig
George Sand. Cawsant berthynas dymhestlog a barhaodd hyd
1847. Pur wael oedd iechyd Chopin trwy lawer o'i fywyd, a gorfododd hyn iddo beidio â pherfformio'n aml yn y blynyddoed cyn ei farwolaeth.
Darparwyd gan Wikipedia